Arthur Balfour

Arthur Balfour
Ganwyd25 Gorffennaf 1848 Edit this on Wikidata
Whittingehame Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Woking Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, llenor, athronydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arglwydd Lywydd y Cyngor, Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Prif Ysgrifennydd dros Iwerddon, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Prif Arglwydd y Morlys, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd yr Wrthblaid Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJames Maitland Balfour Edit this on Wikidata
MamBlanche Gascoyne-Cecil Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Urdd y Gardas, Urdd Teilyngdod, Croes Rhyddid Edit this on Wikidata
llofnod
Mosiaf Balfouria

Gwleidydd a gwladweinydd o'r Alban a oedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol oedd Arthur James Balfour, KG, OM, PC, DL (25 Gorffennaf 184819 Mawrth 1930). Bu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o Orffennaf 1902 tan Rhagfyr 1905, ac fel Arweinydd y Blaid Geidwadol o pan gafodd ei apwyntio'n Brif Weinidog tan fis Tachwedd 1911. Bu'n Aelod Seneddol o 1874–1922 a gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Tramor yn llywodraeth glymbeidiol David Lloyd George rhwng 1916-1919.

Ym 1917, ysgrifennodd Datganiad Balfour oedd yn rhoi cefnogaeth i gartref i'r Iddewon ym Mhalesteina. Nid yw'r rhesymau dros gefnogaeth Balfour i Seioniaeth yn gwbl amlwg. Yn 1905, pan gyfarfu am y tro cyntaf â'r arweinydd Seionaidd Chaim Weizmann i drafod Seioniaeth a dyfodol Palesteina, rhoddodd Balfour ei gefnogaeth i'r Ddeddf Estroniaid (Aliens Act) ei nod oedd rhwystro'r mewnlifiad o Iddewon o ddwyrain Ewrop yn sgil y pogromau. Wrth geisio perswadio arweinwyr ym Mhrydain a'r Almaen o rinweddau Seioniaeth, byddai Theodor Herzl yn dadlau y byddai sefydlu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina yn datrys y "broblem Iddewig" drwy ddargyfeirio'r llif o Iddewon o ddwyrain Ewrop i orllewin Ewrop i Balesteina.[1] Cyfarfu Weizmann a Balfour eto yn 1906 ac yn ôl Weizmann, nid ymdrechodd Balfour i guddio ei wrthsemitiaeth, ond deallodd Weizmann hynny fel gelyniaeth at fathau penodol o Iddew - teimlad roedd Weizmann ei hun yn ei rannu.[2]

Ar sail y Datganiad enwog, cafodd Balfour ei anrhydeddu yn Israel drwy enwi gwladychfa (Balfouria) ym Marj ibn Amir / dyffryn Jezreel ar ei ôl ac mae nifer o strydoedd yn Israel wedi eu henwi ar ei ôl e.e. yn Tel Aviv.[3]

Baner yr AlbanEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Albanwr neu Albanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Pappe, Ilan (2024). Lobbying for Zionism on Both Sides of the Atlantic. London: Oneworld. t. 32. ISBN 978-0-86154-402-8.
  2. Pappe, Ilan (2024). Lobbying for Zionism on Both Sides of the Atlantic. London: Oneworld. tt. 33–34. ISBN 978-0-86154-402-8.
  3. Sand, Shlomo (2014). The Invention of the Land of israel. London: Verso. tt. 156. ISBN 9781781680834.

Developed by StudentB